Preifatrwydd

Rhybudd preifatrwydd Menter Iaith Sir Ddinbych ar gyfer cwsmeriaid a chleientiaid.

 

Cyflwyniad

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn parchu’ch preifatrwydd ac yn ymrwymedig i warchod eich data personol. Bydd y rhybudd preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut rydym yn gofalu am eich data personol a dweud wrthych chi am eich hawliau preifatrwydd, a sut mae’r gyfraith yn eich amddiffyn chi.

Mae’n bwysig eich bod chi’n darllen y rhybudd preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw rybudd preifatrwydd arall neu rybudd prosesu teg y gallwn ei ddarparu ar adegau penodol, fel eich bod yn gwbl ymwybodol o sut a pham yr ydym yn defnyddio’ch data personol. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ychwanegu at unrhyw rybuddion eraill, ac ni fwriedir iddo eu hatal.

Rheolwr

Menter Iaith Sir Ddinbych yw’r rheolwr ac yn gyfrifol am eich data personol (y cyfeirir ato ar y cyd fel “Menter Iaith Sir Ddinbych”, “ni” neu “ein” yn y rhybudd preifatrwydd hwn).

Rydym wedi penodi rheolwr preifatrwydd neu swyddog diogelu data sy’n gyfrifol am oruchwylio cwestiynau mewn perthynas â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhybudd preifatrwydd hwn, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau cyfreithiol, cysylltwch â’r rheolwr preifatrwydd / swyddog diogelu data gan ddefnyddio’r manylion a nodir isod.

Manylion cyswllt:

Enw llawn yr endid cyfreithiol: MENTER IAITH SIR DDINBYCH

Enw neu deitl  Swyddog Diogelu Data: Ruth Williams

Cyfeiriad e-bost: menter@Misirddinbych.cymru

Cyfeiriad post:  6 Heigad, Dinbych, Sir Ddinbych LL16 3LE

Rhif Ffôn: 01745 812822

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn ar unrhyw adeg i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), awdurdod goruchwyliol y DU ar gyfer materion diogelu data (www.ico.org.uk). Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddelio â’ch pryderon cyn i chi fynd i’r ICO felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

 

Egwyddorion Diogelu Data Byddwn yn cydymffurfio â chyfraith diogelu data. Mae’r ddeddf yn dweud bod rhaid i’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi:

  1. Gael ei ddefnyddio yn gyfreithlon, yn deg ac mewn ffordd dryloyw.
  2. Fod wedi’i gasglu yn unig at ddibenion dilys yr ydym wedi’u hesbonio’n eglur i chi ac nad ydynt wedi’u defnyddio mewn unrhyw ffordd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny.
  3. Fod yn berthnasol i’r dibenion yr ydym wedi dweud wrthych amdanynt ac yn gyfyngedig i’r dibenion hynny yn unig.
  4. Fod yn gywir ac mor ddiweddar â phosib.
  5. Gael ei gadw cyn belled ag y bo ei angen yn unig, at y dibenion yr ydym wedi dweud wrthych amdanynt.
  6. Gael ei gadw’n ddiogel.

Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd a’ch dyletswydd i roi gwybod i ni am newidiadau 

Newidiwyd y gyfraith diogelu data yn y DU ar 25 Mai 2018.  Mae’n bwysig bod y data personol sydd gennym amdanoch chi yn gywir ac yn gyfredol. Rhowch wybod i ni os yw’ch data personol yn newid yn ystod eich perthynas â ni.

  1. Y data a gasglwn amdanoch chi

Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir adnabod y person hwnnw ohono. Nid yw’n cynnwys data lle mae’r manylion personol wedi’u tynnu (data anhysbys). Efallai y byddwn ni’n casglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch chi, er enghraifft:
• Manylion Personol [e.e. enw cyntaf, cyfenw, statws priodasol, teitl, dyddiad geni a rhyw].
• Data Cyswllt [e.e. cyfeiriad bilio, cyfeiriad adref, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn].
• Data Ariannol [e.e. manylion banc a cherdyn talu].
• Data Trafodion [e.e. manylion am daliadau i chi ac oddi wrthych a manylion eraill y cynhyrchion a’r gwasanaethau rydych chi yn eu prynu neu eu derbyn gennym ni].
• Data Proffil [e.e. eich enw defnyddiwr a chyfrinair, pryniannau neu orchmynion a wneir gennych chi, eich diddordebau, dewisiadau, adborth ac ymatebion i arolygon].
• Data Defnydd [e.e. gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio ein cynnyrch a’n gwasanaethau].
• Data Marchnata a Chyfathrebu [e.e. eich dewisiadau wrth dderbyn deunydd marchnata gennym ni neu drydydd parti a’ch dewisiadau cyfathrebu].
• Data Personol Sensitif [e.e. manylion am eich hil neu ethnigrwydd, credoau crefyddol neu athronyddol, bywyd rhyw, tueddfryd rhywiol, barn wleidyddol a gwybodaeth am eich data iechyd.]

Os na fyddwch yn darparu data personol

Lle mae angen i ni gasglu data personol yn ôl y gyfraith, neu o dan delerau contract sydd gennym gyda chi a’ch bod yn methu â darparu’r data hwnnw pan ofynnir amdano, efallai na fyddwn yn gallu cyflawni’r contract sydd gennym neu sy’n ddarpar gontract gyda chi (er enghraifft, i ddarparu nwyddau neu wasanaethau i chi). Yn yr achos hwn, efallai y bydd yn rhaid i ni ganslo cynnyrch neu wasanaeth sydd gennych gyda ni ond byddwn yn eich hysbysu os yw hyn yn wir ar y pryd.

  1. Sut mae eich data personol yn cael ei gasglu?

Defnyddiwn wahanol ddulliau i gasglu data oddi wrthych ac amdanoch chi, gan gynnwys: • Rhyngweithiadau uniongyrchol: gallwch roi eich data personol i ni drwy lenwi ffurflenni neu drwy gyfathrebu â ni drwy’r post, ffôn, e-bost neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys data personol rydych chi’n ei ddarparu pan fyddwch yn:
• gwneud cais am ein cynnyrch neu ein gwasanaethau;
• creu cyfrif ar ein gwefan;
• tanysgrifio i’n gwasanaeth neu ein cyhoeddiadau;
• gofyn am farchnata i’w hanfon atoch;
• cymryd rhan mewn cystadleuaeth, ymchwil neu arolwg; neu
• rhoi rhywfaint o adborth i ni.   

Pwrpas / Gweithgaredd Math o ddata Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gan gynnwys sail buddiant dilys 
I’ch cofrestru fel cwsmer/cleient newydd (a) Manylion personol(b) Cysylltu Perfformiad contract gyda chi
Prosesu a chyflwyno’ch archeb gan gynnwys:(a) Rheoli taliadau, ffioedd a thaliadau(b) Casglu ac adennill arian sy’n ddyledus i ni (a) Manylion personol(b) Cyswllt(c) Ariannol(ch) Trafod(d) Marchnata a Chyfathrebu (a) Perfformiad contract gyda chi(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon

(i adennill dyledion sy’n ddyledus i ni)

I reoli ein perthynas â chi a fydd yn cynnwys:(a) Hysbysu chi am newidiadau i’n telerau neu bolisi preifatrwydd(b) Gofyn i chi adael adolygiad neu gymryd arolwg (a) Manylion Personol(b) Cyswllt(c) Proffil(ch) Marchnata a Chyfathrebu (a) Perfformiad contract gyda chi(b) Angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth

gyfreithiol(c) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon

(i gadw ein cofnodion yn ddiweddar ac i astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio

ein cynnyrch / gwasanaethau)

Er mwyn eich galluogi i gymryd rhan mewn cystadleuaeth wobrwyo, cystadlu neu gwblhau arolwg (a) Manylion Personol(b) Cyswllt(c) Proffil(ch) Defnydd(d) Marchnata a Chyfathrebu (a) Perfformiad contract gyda chi(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon

(i astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynnyrch / gwasanaethau,

i’w datblygu a thyfu ein busnes)

Gweinyddu a diogelu ein busnes a’r wefan hon (gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, cynnal a chadw systemau, cefnogi, adrodd (a chynnal data) (a) Manylion Personol(b) Cyswllt (a) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (ar gyfer rhedeg ein busnes,

darparu gwasanaethau gweinyddu a TG, diogelwch rhwydwaith, i atal twyll ac

yng nghyd-destun ad-drefnu busnes neu ymarfer ailstrwythuro grŵp)

(b) Angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol

I ddarparu cynnwys a hysbysebion gwefan berthnasol i chi a mesur neu ddeall effeithiolrwydd yr hysbysebion a wasanaethwn ichi (a) Manylion Personol(b) Cyswllt(c) Proffil(ch) Defnydd(d) Marchnata a Chyfathrebu Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i astudio sut mae cwsmeriaid

yn defnyddio ein cynnyrch / gwasanaethau, i’w datblygu, i dyfu ein busnes ac i

lywio ein strategaeth farchnata)

I ddefnyddio dadansoddiadau data i wella cynhyrchion / gwasanaethau, marchnata, perthnasau a phrofiadau cwsmeriaid (a) Defnydd Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddiffinio mathau o gwsmeriaid

am ein cynnyrch a’n gwasanaethau, i ddatblygu ein busnes ac i lywio ein

strategaeth farchnata)

I wneud awgrymiadau ac argymhellion i chi am nwyddau neu wasanaethau a all fod o ddiddordeb i chi (a) Manylion Personol(b) Cyswllt(c) Defnydd(ch) Proffil Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddatblygu ein

cynnyrch / gwasanaethau a thyfu ein busnes)

 

  1. Sut rydym yn defnyddio’ch data personol 

Byddwn ond yn defnyddio’ch data personol pan fydd y gyfraith yn ein galluogi ni i wneud hynny. Yn fwyaf cyffredin, byddwn yn defnyddio’ch data personol yn yr amgylchiadau canlynol:
• Lle mae angen i ni gyflawni’r contract yr ydym ar fin ei ddechrau gyda chi neu yr ydych chi wedi ymuno ag ef.
• Lle bo’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (neu rai trydydd parti) ac mewn sefyllfa ble nad yw eich buddiannau a’ch hawliau sylfaenol yn goresgyn y buddiannau hynny.
• Lle mae angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol.

Yn gyffredinol, nid ydym yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol heblaw mewn perthynas ag anfon cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol trydydd parti i chi trwy e-bost neu neges destun. Mae gennych yr hawl serch hynny i dynnu eich caniatâd i ni farchnata i chi ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni.

 

Y dibenion y byddwn yn defnyddio’ch data personol ar eu cyfer

Rydym wedi nodi isod, mewn fformat tabl, ddisgrifiad o’r holl ffyrdd rydym yn bwriadu defnyddio’ch data personol, a pha rai o’r sylfeini cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt i wneud hynny. Rydym hefyd wedi nodi beth yw ein buddiannau cyfreithlon lle bo hynny’n briodol. Nodwch y gallwn brosesu eich data personol ar gyfer mwy nag un maes cyfreithlon, yn dibynnu ar y pwrpas penodol yr ydym yn defnyddio’ch data. Cysylltwch â ni os oes arnoch angen manylion am y maes cyfreithiol penodol yr ydym yn dibynnu arno i brosesu eich data personol lle mae mwy nag un maes wedi’i nodi yn y tabl isod.

Defnyddir y termau canlynol yn y tabl isod:
• Mae Budd Cyfreithiol yn golygu diddordeb ein busnes wrth gynnal a rheoli ein busnes i’n galluogi i roi’r gwasanaeth / cynnyrch gorau a’r profiad gorau a mwyaf diogel i chi. Rydym yn sicrhau ein bod yn ystyried ac yn cydbwyso unrhyw effaith bosibl arnoch chi (yn gadarnhaol a negyddol) a’ch hawliau cyn i ni brosesu eich data personol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon. Nid ydym yn defnyddio’ch data personol ar gyfer gweithgareddau lle mae’r effaith ar eich buddiannau chi yn fawr (oni bai bod gennym eich caniatâd neu fel arall ble mae’n ofynnol neu yn ôl y gyfraith). Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn asesu ein buddiannau cyfreithlon yn erbyn unrhyw effaith bosibl arnoch chi trwy gysylltu â ni.
• Mae Perfformiad Contract yn golygu prosesu eich data lle bo’n angenrheidiol ar gyfer perfformio contract yr ydych yn rhan ohono, neu gymryd camau ar eich cais cyn neu wrth ichi ymrwymo i gontract o’r fath.
• Mae cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol yn golygu prosesu eich data personol lle bo’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol yr ydym yn ddarostyngedig iddo.

 Sut rydym yn defnyddio data personol arbennig o sensitif Ceir “categorïau arbennig” o wybodaeth bersonol arbennig o sensitif yn gofyn am lefelau amddiffyn uwch. Mae angen i ni gael cyfiawnhad pellach dros gasglu, storio a defnyddio’r math hwn o wybodaeth bersonol. Gallwn brosesu categorïau arbennig o wybodaeth bersonol yn yr amgylchiadau canlynol:

  1. Mewn amgylchiadau cyfyngedig, gyda’ch caniatâd penodol.
    2. Lle mae ei angen er budd y cyhoedd, megis ar gyfer monitro cyfle cyfartal.

Yn llai cyffredin, gallwn brosesu’r math hwn o wybodaeth lle mae ei angen mewn perthynas â hawliadau cyfreithiol neu lle mae ei angen er mwyn amddiffyn eich buddiannau (neu fuddiannau rhywun arall) ac nad ydych yn gallu rhoi eich caniatâd, neu lle rydych chi eisoes wedi gwneud y wybodaeth yn gyhoeddus. 

Cynigion hyrwyddo gennym ni

Efallai y byddwn yn defnyddio’ch Manylion Personol, Cyswllt, Defnydd a Phroffil i lunio barn ar yr hyn yr ydym yn ei feddwl y dymunwch ei angen, neu beth allai fod o ddiddordeb i chi. Dyma sut rydym yn penderfynu pa gynhyrchion, gwasanaethau a chynigion a allai fod yn berthnasol i chi, ac yn cysylltu â chi i’ch hysbysu amdanynt.

Byddwch yn derbyn cyfathrebiadau marchnata oddi wrthym os ydych chi wedi gofyn am wybodaeth gennym ni neu wedi prynu nwyddau neu wasanaethau gennym ni [neu os rhoddasoch eich manylion i ni pan wnaethoch chi gystadlu neu gofrestru ar gyfer ymgyrch hyrwyddo].

 

 

Marchnata trydydd parti

Byddwn yn ceisio eich caniatâd penodol cyn i ni rannu eich data personol gydag unrhyw gwmni y tu allan i Fenter Iaith Sir Ddinbych at ddibenion marchnata.

Tynnu allan

Gallwch ofyn i ni neu drydydd parti roi’r gorau i anfon negeseuon marchnata i chi ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni ar unrhyw adeg. Os byddwch yn tynnu allan o dderbyn y negeseuon marchnata hyn, ni fydd hyn yn berthnasol i ddata personol a ddarparwyd i ni o ganlyniad i brynu cynnyrch / gwasanaeth, cofrestru gwarant, profiad cynnyrch / gwasanaeth neu gyswllt arall.

Newid pwrpas

Byddwn ond yn defnyddio’ch data personol at y dibenion y cafodd eu casglu, oni bai ein bod yn rhesymol yn ystyried bod angen inni eu defnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw’n gydnaws â’r pwrpas gwreiddiol. Pe hoffech gael eglurhad ynghylch sut mae’r prosesu ar gyfer y pwrpas newydd yn gydnaws â’r pwrpas gwreiddiol, cysylltwch â ni. Os bydd angen i ni ddefnyddio eich data personol at ddiben arall, byddwn yn eich hysbysu a byddwn yn egluro’r sail gyfreithiol sy’n ein galluogi i wneud hynny. Nodwch y gallwn brosesu eich data personol heb eich gwybodaeth neu’ch caniatâd, yn unol â’r rheolau uchod, lle mae hyn yn ofynnol neu’n cael ei ganiatáu yn ôl y gyfraith.

  1. Datgeliadau o’ch data personol

Efallai y bydd yn rhaid i ni rannu eich data personol gyda’r partïon a nodir isod at y dibenion a nodir yn y tabl ym mharagraff 3 uchod.

  • Trydydd Parti Allanol:
    – Darparwyr gwasanaeth [sy’n gweithredu fel proseswyr] sy’n seiliedig yn y DU a’r UE sy’n darparu gwasanaethau gweinyddu TG neu systemau tebyg eraill.
    – Cynghorwyr proffesiynol [yn gweithredu fel proseswyr neu gyd-reolwyr] gan gynnwys cyfreithwyr, bancwyr, archwilwyr ac yswirwyr sy’n darparu gwasanaethau ymgynghori, bancio, cyfreithiol, yswiriant a chyfrifo.
    – Cyllid a Thollau EM, rheoleiddwyr ac awdurdodau eraill [sy’n gweithredu fel proseswyr neu gyd-reolwyr] wedi’u seilio yn y Deyrnas Unedig [y bydd angen inni adrodd am weithgareddau prosesu iddynt dan rai amgylchiadau].
    – Trydydd bartïon y gallem ddewis gwerthu, trosglwyddo, neu uno rhannau o’n busnes neu ein hasedau. Fel arall, efallai y byddwn yn ceisio caffael busnesau eraill neu uno â hwy. Os bydd newid yn digwydd i’n busnes, yna gall y perchnogion newydd ddefnyddio’ch data personol yn yr un modd ag a nodir yn y rhybudd preifatrwydd hwn.

Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob trydydd parti barchu diogelwch eich data personol a’u trin yn unol â’r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i’n darparwyr gwasanaeth trydydd parti ddefnyddio eich data personol at eu dibenion eu hunain a dim ond yn caniatáu iddynt brosesu eich data personol at ddibenion penodol ac yn unol â’n cyfarwyddiadau.    

 

  1. Trosglwyddiadau rhyngwladol

Rydym yn rhannu eich data personol o fewn Menter Iaith Sir Ddinbych. Bydd hyn yn golygu trosglwyddo’ch data y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

 

 

 

  1. Diogelwch data

Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael eu colli, eu defnyddio mewn ffordd anawdurdodedig, eu newid neu eu datgelu yn ddamweiniol. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu ar fynediad i’ch data personol i’r gweithwyr, asiantau, contractwyr a thrydydd partïon eraill y mae ganddynt reswm busnes i wybod amdano. Byddant ond yn prosesu eich data personol ar ein cyfarwyddiadau ac maent yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd.

Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw dorri rheolau data personol a amheuir a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol o doriad rheolau data personol lle mae’n ofynnol i ni wneud hynny yn gyfreithiol.

  1. Cadw data

Am ba hyd y byddwch chi’n defnyddio fy nata personol?

Byddwn ond yn cadw eich data personol cyn belled ag y bo’n angenrheidiol i gyflawni’r dibenion y casglwyd y data ar eu cyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd.

Er mwyn pennu’r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y perygl posibl o’r niwed o ddefnyddio neu ddatgelu’ch data personol heb awdurdod, y dibenion yr ydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer, os gallwn gyflawni’r dibenion hynny trwy ddulliau eraill, a’r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i ni gadw gwybodaeth sylfaenol am ein cwsmeriaid (gan gynnwys Manylion Cyswllt, Personol, Data Ariannol a Thrafod) am chwe blynedd ar ôl iddynt roi’r gorau i fod yn gwsmeriaid at ddibenion cyllid a threth.

Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i ni ddileu eich data.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn troi eich data personol i fod yn anhysbys (fel na all fod yn gysylltiedig â chi bellach) at ddibenion ymchwil neu ddibenion ystadegol, ac os felly, efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon am gyfnod amhenodol heb rybudd pellach i chi.

  1. Eich hawliau cyfreithiol

O dan rai amgylchiadau, mae gennych hawliau dan gyfreithiau diogelu data mewn perthynas â’ch data personol.

Mae gennych yr hawl i:
• Ofyn am fynediad i’ch data personol (gelwir yn gyffredin fel “cais am fynediad deiliad data”). Mae hyn yn eich galluogi i dderbyn copi o’r data personol sydd gennym amdanoch chi ac i wirio ein bod yn ei brosesu’n gyfreithlon.
• Ofyn am gywiro’r data personol yr ydym yn ei ddal amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi i gywiro unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi, er efallai y bydd angen i ni wirio cywirdeb y data newydd a roddwch i ni.
• Ofyn am ddileu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu data personol lle nad oes rheswm da dros barhau i’w brosesu. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol lle rydych wedi arfer eich hawl i wrthwynebu’r prosesu (gweler isod), lle efallai y byddwn wedi prosesu’ch gwybodaeth yn anghyfreithlon neu lle mae gofyn i ni ddileu eich data personol i gydymffurfio â chyfraith leol. Sylwch, fodd bynnag, na fyddwn bob amser yn gallu cydymffurfio â’ch cais i ddileu am resymau cyfreithiol penodol ac fe  fyddwn yn rhoi gwybod i chi, os yw hyn yn berthnasol, ar adeg eich cais.
• Wrthwynebu prosesu
 eich data personol lle rydyn ni’n dibynnu ar fudd cyfreithlon (neu rai trydydd parti) ac mae rhywbeth am eich sefyllfa benodol sy’n eich gwneud yn awyddus i wrthwynebu prosesu ar y sail hon gan eich bod yn teimlo ei fod yn effeithio ar eich hawliau a’ch rhyddid sylfaenol. Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu lle rydym yn prosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn gallu arddangos bod gennym sail gyfreithlon gref i brosesu eich gwybodaeth sy’n trechu eich hawliau a’ch rhyddid.
• Ofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal prosesu eich data personol yn y sefyllfaoedd canlynol: (a) os ydych chi am i ni sefydlu cywirdeb y data; (b) lle mae ein defnydd o’r data yn anghyfreithlon ond nad ydych am i ni ei ddileu; (c) lle mae angen i ni ddal y data hyd yn oed os nad ydym bellach ei angen gan y bydd ei angen arnoch i sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu (ch) eich bod wedi gwrthwynebu ein defnydd o’ch data ond mae angen i ni wirio a oes gennym sail gyfreithiol i’w ddefnyddio sy’n trechu eich gwrthwynebiad.
• Ofyn am drosglwyddo eich data personol i chi neu i drydydd parti. Byddwn yn darparu i chi, neu drydydd parti o’ch dewis, eich data personol mewn fformat strwythuredig, sy’n gyffredin ei ddefnydd, ac sy’n ddarllenadwy ar bapur. Noder bod yr hawl hwn ond yn berthnasol i wybodaeth awtomataidd  y rhoddoch ganiatâd i ni ei ddefnyddio yn lle cyntaf, ac a ddefnyddiwyd i berfformio contract gyda chi.
• Dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg lle rydym yn dibynnu ar ganiatâd i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a gynhelir cyn i chi dynnu eich caniatâd yn ôl. Os byddwch yn tynnu’ch caniatâd yn ôl, efallai na fyddwn yn gallu darparu rhai cynnyrch neu wasanaethau i chi. Byddwn yn eich cynghori os yw hyn yn wir ar yr adeg y byddwch yn tynnu’ch caniatâd yn ôl.

Os hoffech chi ymarfer unrhyw un o’r hawliau a nodir uchod, cysylltwch â ni.

Nid oes ffi yn cael ei godi fel arfer

Ni fydd rhaid i chi dalu i weld eich data personol (neu i defnyddio eich hawliau eraill).  Os yw eich cais yn amlwg ddi-sail, ailadroddus, neu yn anghymedrol, fe allwn godi ffi rhesymol.  Yn hytrach, fe allwn ni wrthod cydymffurfio gyda eich gofynion yn yr amgylchiadau yma.

Be sydd ei angen arnom gennych chi

Fe allwn fod angen gofyn am wybodaeth benodol gennych i’n cynorthwyo ni i gadarnhau eich hunaniaeth a chadarnhau eich hawliau i gael gweld eich data personol (neu i ddefnyddio eich hawliau eraill). Mae hyn yn fesur diogelwch i sicrhau fod data personol ddim yn cael ei ddatgelu i unrhyw un nad yw â’r hawl i’w dderbyn.  Gallwn hefyd gysylltu â chi i ofyn am fwy o wybodaeth ynglŷn â’ch cais er mwyn cyflymu ein ymateb.

Uchafswm amser ymateb

Rydym yn ceisio ymateb i bob cais cyfiawn o fewn mis.  Ar brydiau, fe all hyn gymryd yn hirach na mis, yn enwedig os yw’r cais yn un cymhleth, neu os ydych chi wedi gwneud nifer o geisiadau.  Mewn achos fel hyn, fe wnawn eich hysbysu a’ch diweddaru.