Owain Glyndŵr oedd yr arweinydd Cymreig olaf i arwain gwrthryfel yn erbyn Brenin Lloegr. Yn hanu o linach frenhinol Powys a’r Deheubarth, fe’i cyhoeddwyd yn Dywysog Cymru yng Nglyndyfrdwy ar Fedi 16, 1400 ym mhresenoldeb llysgenhadon o’r Alban, Ffrainc a Sbaen.

Bob blwyddyn ar yr 16eg o fis Medi dethlir Diwrnod Owain Glyndŵr yng Nghymru. Mae’r Mentrau Iaith yn helpu i drefnu cyfres o ddigwyddiadau ym mhob rhan o’r wlad. Mae manylion rhai o’r digwyddiadau hyn isod:

  • Bydd Menter Blaenau Gwent Torfaen a Mynwy yn cynnal Cylch Trafod a Darllen ar nos fawrth y 15fed ac yn canolbwyntio’r noson ar erthyglau yn ymwneud ag Owain Glyndŵr a gwrthryfel y Cymry.
  • Mae Menter Iaith Sir Ddinbych wedi bod yn cynorthwyo pwyllgor dathlu Owain Glyndŵr yn ardal Corwen ac maent wedi trefnu sioe i deuluoedd; Owain Glyndŵr, Ein Harwr ni, fydd yn cael ei chynnal ddydd Sul Medi’r 13eg am 14:00 yn Neuadd Bentre Carrog. Bydd y sioe hon, gan Eleri Twynog yn teithio o amgylch nifer o leoliadau yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Gŵyl Hanes Cymru.
  • Yn ogystal â hyn cynhelir noson o ddawnsio gwerin yng nghwmni’r grŵp gwerin Pen Tennyn yn Neuadd Goffa Owain Glyndwr, Glyndyfrdwy ar y 15fed o Fedi rhwng 19:00 – 21:00.
  • Ym Machllynlleth bydd Menter Iaith Maldwyn a Chanolfan Glyndŵr yn cynnal penwythnos o ddigwyddiadau arbennig (18fed – `19eg o Fedi) i ddathlu’r hanes.
  • Ar nos Wener y 18fed am 19:00 yn Senedd-dy Glyndŵr, bydd Emyr Llew, Cyril Jones a Terry Brevington yn sgwrsio am wahanol elfennau ar hanes Owain Glyndŵr. Tocynnau yn £4, mynediad trwy docyn yn unig.
  • Ar y dydd Sadwrn y 19eg fydd Gŵyl Glyndŵr yn cael ei chynnal am yr ail flwyddyn yn olynol ar dir y Ganolfan. Bydd yr ŵyl yn dechrau am 13:00 gyda grwpiau gwerin, adloniant i’r plant, sesiynau dawnsio a llawer mwy. Am fwy o wybodaeth am weithgareddau Canolfan Glyndŵr, cysylltwch â Sioned Fflur.

Ochr yn ochr â’r digwyddiadau hyn bydd nifer o’r mentrau yn codi ymwybyddiaeth am y diwrnod trwy ddosbarthu taflenni a banneri ledled Cymru.

Os ydych yn cynnal digwyddiad yn eich ardal chi, cysylltwch â ni a chofiwch rannu eich lluniau a’ch negeseuon Owain Glyndŵr ar Faebook a Twitter trwy ddefnyddio’r hashnod #cofioglyndŵr

Baner Balchder - Owain Glyndwr tud 1