Menter Iaith Sir Ddinbych
Iaith | Cymuned | Economi
Menter Iaith Sir Ddinbych
Iaith | Cymuned | Economi
Menter Iaith Sir Ddinbych
Iaith | Cymuned | Economi
Ein Gwaith
Cefnogwch Ni
Cyhoeddi taith Gwilym Bowen Rhys Trio
Mewn partneriaeth rhwng PYST, Mentrau Iaith Cymru a Noson Allan, dyma gyhoeddi’r drydedd gylchdaith o amgylch ardaloedd gwledig Cymru. Yn dilyn llwyddiant y ddwy gylchdaith hyd yma, fu’n gweld HMS Morris a The Gentle Good yn perfformio ar hyd a lled Cymru yn 2023,...
Taith Gwilym Bowen Rhys Trio
Mewn partneriaeth rhwng PYST, Mentrau Iaith Cymru a Noson Allan, dyma gyhoeddi'r drydedd gylchdaith o amgylch ardaloedd gwledig Cymru. Yn dilyn llwyddiant y ddwy gylchdaith hyd yma, fu'n gweld HMS Morris a The Gentle Good yn perfformio ar hyd a lled Cymru yn 2023,...
Menter Iaith Sir Ddinbych yn denu gwirfoddolwyr a gwella effeithiolrwydd
Dros y misoedd diwethaf, mae Menter Iaith Sir Ddinbych wedi bod yn brysur yn gweithio ar gynllun i foderneiddio a chynyddu capasiti’r elusen, sy’n creu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg o fewn y sir. “Tîm bychan o staff sy’n cyflawni llawer ydyn ni,” meddai Ruth...
PENWYTHNOS O HANES A CHELF YN RHUTHUN
Efallai bod chi’n gwybod popeth am hanes Rhuthun wrth i chi gerdded fyny a lawr strydoedd y dref, ond daeth unigolion a grwpiau i ddysgu mwy yn ddiweddar. Cafodd y teithiau eu trefnu gan Fenter Iaith Sir Ddinbych gyda nawdd gronfa Cymunedol Llys Awelon, Grŵp...
Prosiect Lluosi’n meithrin hyder a chodi sgiliau rhifedd yn y Gymraeg
Mae 15 o drigolion ardal Dyffryn Clwyd wedi elwa a mwynhau sesiynau ‘Lluosi’ diolch i waith Menter Iaith Sir Ddinbych dros y misoedd diwethaf. Bwriad y cynllun oedd ‘lluosi’ gallu a sgiliau rhifedd oedolion, trwy ddarparu chwech o sesiynau a sesiwn blasu oedd yn...
Busnesau Lleol yn Hapus i groesawu Dysgwyr Cymraeg
Fel rhan o ddathliadau Diwrnod Shwmae Su'mae 2024, mae swyddogion Menter Iaith Sir Ddinbych wedi bod yn ymweld â rhai busnesau lleol er mwyn eu hannog i ymuno â chynllun 'Hapus i Siarad'. Mae’r ymgyrch, sy’n bartneriaeth rhwng Mentrau Iaith a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg...
Diwrnod Shwmae Su’mae
Pwy sy’n ei gyd-lynnu? Mentrau Iaith Cymru sy’n cymryd yr awenau o 2024 gyda’r 22 Menter drwy Gymru gyfan yn hyrwyddo’r ymgyrch yn eu hardaloedd lleol. Ewch i wefan Diwrnod Shwmae Su’mae am ragor o wybodaeth ac i ddarganfod adnoddau i chi ddefnyddio er mwyn dathlu...
Dathlu Traddodiadau Calan Gaeaf Cymreig
Fel rhan o ddathliadau Calan Gaeaf eleni mae’r Mentrau Iaith yn tynnu sylw at ffigwr blaenllaw o chwedloniaeth Geltaidd ar gyfer Dydd y Meirw – Gwyn ap Nudd. Bydd modd i blant a phobl ifanc i greu ac addurno penglog Gwyn ap Nudd, Brenin Annwn (neu...
Cwrs Cyffrous
Hoffech chi (neu rywun 'de chi'n nabod) ddatblygu sgiliau bywyd a rhifedd, a hynny mewn sesiynau hwyliog, cymdeithasol yn hytrach na gwersi ffurfiol? Mae Menter Iaith Sir Ddinbych ar fin dechrau cyfres o sesiynau dan arweiniad arbenigwyr rhifedd a...
Dylunydd y wisg Gymreig ar faes sioe amaethyddol Dinbych a Fflint
Efallai mai anghyffredin yw gweld perfformiad theatraidd mewn sioe amaethyddol, ond dyna’n union fu’r wledd i fynychwyr Sioe Dinbych a Fflint yr wythnos ddiwethaf wrth i Fenter Iaith Sir Ddinbych ddod â sioe i’r maes. Sioe un ferch, gan y cwmni gwych Mewn Cymeriad...
Swydd Newydd
Disgrifiad Swydd Teitl y Swydd: Swyddog Ardal Wledig Sir Conwy a Sir Ddinbych (Ardaloedd Uwch Aled, Bro Aled a Llanrhaeadr yng Nghinmeirch). Disgrifiad Swydd Teitl y Swydd: Swyddog Ardal Wledig Sir Conwy a Sir Ddinbych (Ardaloedd Uwch Aled, Bro Aled a Llanrhaeadr yng...
Swyddog Ardal Wledig Sir Conwy a Sir Ddinbych
Cyfle i weithio i gefnogi grwpiau cymunedol a hybu’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn ne siroedd Conwy a Dinbych Diolch i nawdd gan gronfeydd Ffermydd Gwynt Brenig a Clocaennog mae Mentrau Iaith Conwy a Sir Ddinbych yn chwilio am swyddog prosiect i sefydlu a chefnogi...
Haf Cymraeg Sir Ddinbych
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau i blant, pobl ifanc ac i deuluoedd ar draws y Sir dros y gwyliau haf. Mae posteri'r gweithgareddau a digwyddiadau hyn i weld isod...
Cyfeillion, cymwynsawyr, cymuned a’r Gymraeg
Mewn ymgyrch arbennig i gynnig cyfleoedd newydd i ‘Gyfeillion y Gymraeg’ yn Sir Ddinbych, mae Menter Iaith Sir Ddinbych wedi lansio cynllun newydd sbon. Bwriad y cynllun yw tynnu caredigion cymunedol at ei gilydd sydd eisiau cyfrannu at les, ffyniant a dyfodol y...
Sesiynau Paned a Sgwrs Mis Mehefin
Tremeirchion. Corwen. Dinbych. Pentredŵr. Rhuthun.
Cwis Dim Clem 2024 – cystadlu brwd eto eleni!
Bu miloedd o blant Cymru'n cystadlu yn Cwis Dim Clem eto eleni. Roedd cannoedd o ysgolion wedi cystadlu yn y cwis llawn hwyl sy’n cael ei threfnu gan y Mentrau Iaith. Pob blwyddyn mae timau brwdfrydig o blant blwyddyn 6 yn cystadlu - ateb cwestiynau mewn sawl rownd...
Ail Hysbyseb: Swyddog Ardal Hiraethog Sir Conwy a Sir Ddinbych
Cyfle i weithio i gefnogi grwpiau cymunedol a hybu’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn ne siroedd Conwy a Dinbych Diolch i nawdd gan gronfeydd Ffermydd Gwynt Brenig a Clocaennog mae Mentrau Iaith Conwy a Sir Ddinbych yn chwilio am swyddog prosiect i sefydlu a chefnogi...
Paned a Sgwrs yn Hybu’r Gymraeg
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych wedi bod yn cydweithio gyda gwirfoddolwyr mewn cymunedau ledled y sir i greu cyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg ymarfer eu sgiliau llafar tra’n cymdeithasu dros baned neu wrth fynd am dro. O Brestatyn i Bentredŵr, mae bellach dros 100 o...
Busnesau Sir Ddinbych yn rhoi dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi yn ffenest siop
Cymrodd busnesau o bedair tref yn Sir Ddinbych, Prestatyn, Rhuddlan, Dinbych a Rhuthun ran yng nghystadleuaeth ffenest siop flynyddol Menter Iaith Sir Ddinbych i nodi dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi. Mae dathlu gŵyl ein nawddsant, trwy addurno ffenestri siopau yn rhoi’r...
Yn nathliadau Mawrth y cyntaf, daeth hyd at 700 o blant i orymdaith yn Ninbych
Roedd Dinbych dan ei sang ar y cyntaf o Fawrth, wrth i hyd at 700 o blant ymuno yn nathliadau arbennig Dydd Gŵyl Ddewi, diolch i waith Menter Iaith Sir Ddinbych, Cyngor Tref Dinbych a’u partneriaid. Ymddangosodd yr haul wrth i'r bore fynd rhagddo a dechreuodd yr...
Lansio ymgyrch Dyblu’r Defnydd yn Nigwyddiad Cenedlaethol Mentrau Iaith Cymru
Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn falch iawn o gyhoeddi ymgyrch newydd ar gyfer 2024 sef Dyblu’r Defnydd. Bwriad yr ymgyrch yw agor sianel gyfathrebu gyda’r cyhoedd i gasglu syniadau am gyfleoedd i gynyddu’r defnydd o Gymraeg yn gymunedol. Mae’r ymgyrch yn lansio yn...
Gweithdai Hanner Tymor Chwefror
Bydd y Fenter Iaith yn cynnal gweithdai Lego (i rai dros 7 oed) a Minecraft (i rai dros 10 oed) yn Rhuddlan ac yn Ninbych yn ystod hanner tymor. E-bostiwch gwion@misirddinbych.cymru i gofrestru.
Deian a Loli yn dod i Ddinbych
Mae’r ffôn wedi bod yn boeth ers cyhoeddiad Deian a Loli am eu ffilm bach diweddaraf! Mae dangosiad 10:30am a 6pm o 'Deian a Loli a Chloch y Nadolig' yn Theatr Twm o'r Nant bellach yn llawn. Diolch i Glwb Ffilmiau Dinbych, rydym bellach yn gallu cynnig dangosiad...
Dydd Owain Glyndŵr 2023
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych, mewn cydweithrediad â phwyllgor Dydd Owain Glyndŵr a Phartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych a yn cynnal gweithgaredd yng Nghorwen i deuluoedd, i ddathlu Dydd Owain Glyndŵr. Mae'r Fenter wedi cynllunio helfa hanes i ddysgu mwy am hanes...
Gweithdai Lego yn dod a hanes yn fyw i bobl ifanc
Bydd Menter Iaith Sir Ddinbych yn ôl yn Llyfrgell Dinbych ddydd Sadwrn yma (16 Medi) i gynnal gweithdai Lego i blant 7 -15 oed. Gweithdai 1.5 awr lle bydd cydweithio i ail-greu’r Brodordy ac adeilad y Llyfrgell yn Ninbych. Bydd y sesiwn bore yn un dwyieithog, a’r...
Teithiau Tywys i siaradwyr Cymraeg newydd Sir Ddinbych
Mae gan y Fenter gyfres newydd o deithiau tywysedig Cymraeg, yn addas i siaradwyr Cymraeg newydd lefel canolradd ac uwch yn ogystal â siaradwyr Cymraeg rhugl. Bydd y teithiau yn para 1.5 - 2 awr fel arfer, ac yn cael eu harwain gan Medwyn Williams, sy’n dywysydd...
Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym
“Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.” Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y menopos. Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn – mi gewch chi’r cyfan. Bydd cyfle euraidd i’r...
Promenâd Y Rhyl: Trosglwyddo torch yr iaith ymlaen i gyfeillion a theulu
Daeth dros 500 o blant lleol ac ymwelwyr â phromenâd Y Rhyl i stop yn ddiweddar, wrth iddynt orymdeithio yn cario ffaglau iaith i godi proffil y Gymraeg ac i rannu pwysigrwydd defnyddio a throsglwyddo’r iaith i’n gilydd. Ymunodd disgyblion Ysgolion Dewi Sant (Y Rhyl),...
Gweithdai gwyliau’r haf yn gyfle i ddysgu am hanes lleol
Oes gennych chi benseiri neu adeiladwyr bach creadigol acw, beth am archebu lle iddynt yn un o’n gweithdai Lego neu Minecraft a gynhelir dros gyfnod gwyliau’r haf? Byddwn yn cynnal gweithdai Lego a Minecraft yn Rhuddlan, Dinbych, Rhuthun, Corwen a Llangollen, a fydd...
Dathlu gwaith y gwirfoddolwyr ar ddechrau mis Mehefin
Wyt ti’n hoffi bod yng nghwmni plant a phobl ifanc? Eisiau ymarfer dy Gymraeg? Dysgu sgil newydd? Neu beth am rannu dy angerdd dros y Gymraeg gyda’th gymuned? Wel, Menter Iaith Sir Ddinbych yw’r lle i ti, gan bod gan yr elusen sy’n hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg o fewn...
Gweithgareddau a digwyddiadau Cymraeg yn ystod Gŵyl Ganol Haf Dinbych
Am wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau Cymraeg yn ystod y wythnos:
Y Sŵn a’r bwrlwm yn rhoi ffocws i wirfoddolwyr y Clwb Ffilmiau
(Adolygiad o ffilm Y Sŵn, gan Ffion Clwyd Edwards, Groes) Hir yw pob ymaros, yn ôl y sôn, ac i ni fel Cymry, rydyn ni wedi gorfod aros yn hir am hon... y ffilm Gymraeg gyntaf ers oes aur ffilmiau Cymraeg yr 80au, ‘Y Sŵn,’ gan Roger Williams wedi ei chyfarwyddo gan Lee...
Easter holiday fun – week one! Huge ‘diolch’ to everyone who joined us!
The pictures from our activities or events that we've attended can be found here. Don't forget...... This Thursday and Friday 13/14 April 2023 Contact us on 01745 812822 or gwion@misirddinbych.cymru
Hysbyseb Swydd: Swyddog Prosiect Ardal Arfordirol
Cyfle i weithio yn cefnogi grwpiau cymunedol ac yn hybu’r Gymraeg a dwyieithrwydd yngngogledd siroedd Conwy a Dinbych Swyddog Prosiect Ardal Arfordirol 22 awr yr wythnos (gyda rhai oriau gyda’r nos ac ar benwythnosau yn achlysurol) Cytundeb hyd ddiwedd 2025, yn...
Busnesau Sir Ddinbych yn rhoi dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi yn ffenest siop
Cymrodd busnesau o bedair tref yn Sir Ddinbych, Prestatyn, Rhuddlan, Dinbych a Rhuthun ran yng nghystadleuaeth ffenest siop flynyddol Menter Iaith Sir Ddinbych i nodi dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi. Mae dathlu gŵyl ein nawddsant, trwy addurno ffenestri siopau yn rhoi’r...
Tref Dinbych yn rhoi dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi ar y map
Rhoddodd tref Dinbych naws arbennig i ddathliadau Dydd Gŵyl Ddewi ddydd Mercher y cyntaf o Fawrth, wrth i dros 500 o bobl ifanc orymdeithio i fyny Stryd y Dyffryn dan arweiniad seiniau hyfryd Band Cambria. Daeth y digwyddiad, a drefnwyd mewn partneriaeth rhwng Menter...
Dydd Miwsig Cymru 2023
Bydd Dydd Miwsig Cymru yn digwydd ar 10 Chwefror 2023 P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o...
Cystadleuaeth addurno ffenestri Dydd Gŵyl Dewi 2023
Oes gennych chi fusnes yn Rhuthun, Dinbych, Rhuddlan neu Brestatyn? Beth am gymryd rhan yn y gystadleuaeth addurno ffenestri ar gyfer #DyddGŵylDdewi? Cofrestrwch trwy e.bostio: iorwen@misirddinbych.cymru
Llwyddiant i Fenter Iaith Sir Ddinbych mewn digwyddiad cenedlaethol
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych wedi derbyn gwobr genedlaethol yn nigwyddiad Dathlu’r Mentrau Iaith am eu gweithgareddau Minecraft a Lego i blant a phobl ifanc. Mewn digwyddiad arbennig yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd i ddathlu gwaith y mentrau iaith sy’n hyrwyddo’r...
Digon i wneud ar ddiwrnod Santes Dwynwen
Mi fydd y Fenter yn cynnal a chefnogi 2 digwyddiad Santes Dwynwen eleni. Digwyddiad i ddysgwyr o pob lefel ym Mhrestatyn. Digwyddiad i ddathlu Santes Dwynwen a Burns yn Ninbych.
CROENDENA – Theatr Twm O’r Nant, Dinbych 11 Chwefror
Dramedi newydd sbon am ferch ifanc sy’n benderfynol o ddilyn llwybr ei hun. Seshis yn y pyb. Dyddia lan môr. Cywilydd corff. Straeon a sibrydion. Hogia, hela a ffymbls maes parcio'r National Trust.Mae'r haf ar droed. Mae’r gens yn barod am bartis ac mae bywyd yn...
Canlyniadau Cyfrifiad 2021 ar y Gymraeg
Ymateb Mentrau Iaith Cymru Yn dilyn cyhoeddi ystadegau Cyfrifiad 2021 ar yr iaith Gymraeg y bore yma (6 Rhagfyr 2022) gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae Mentrau Iaith Cymru wrthi ar hyn o bryd yn pwyso a mesur eu harwyddocâd. Wrth ymateb i’r cyhoeddiad cychwynnol...
Nadolig yn Ninbych
Dewch draw i stondin Menter Iaith i greu cerdyn 'Dolig Magi Ann, bathodyn Nadoligaidd ac i helpu i greu murlun cymunedol. Byddwn i fyny grisiau yn y Neuadd gydol y prynhawn.Bydd ymweliadau arbennig gan Magi Ann hefyd rhwng 3 - 6pm. Dewch am hunlun!
Digwyddiadau Cwpan y Byd yn dod i Sir Ddinbych
Mae'r fenter wedi bod yn brysur yn cynnal digwyddiadau ar draws y Sir hefo rhai dal ar y gweill! Y digwyddiad cyntaf i ddysgwyr yng Nghyffylliog Y digwyddiad fydd yn digwydd yno ar y Dydd Gwener cyn y gêm fawr! Digwyddiad i ddysgwyr a phlant ysgol yn Ysgol Pen Barras,...
Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth het bwced
Fe wnaeth dros 5,400 o blant gymryd rhan yng nghystadleuaeth dylunio het bwced y Mentrau Iaith. Mae’r Mentrau Iaith yn diolch i’r plant i gyd, eu rhieni a’u hysgolion am gystadlu. Dechrau mis Hydref lansiodd y Mentrau Iaith y gystadleuaeth i blant a phobl ifanc dan 18...
Y Mentrau Iaith yn peintio Cymru’n goch gyda murluniau pêl-droed
I ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’i lwyddiant o gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed, mae’r Mentrau Iaith yn cyhoeddi cyfres o furluniau ar draws Cymru. Mae’r murlun cyntaf gyda Joe Allen yn Arberth eisoes wedi cael tipyn o sylw gyda rhieni Joe Allen ei hunain yn rhoi sêl...
Dathlu Traddodiadau Calan Gaeaf Cymreig
Fel rhan o ddathliadau Calan Gaeaf eleni mae’r Mentrau Iaith yn tynnu sylw at ffigwr blaenllaw o chwedloniaeth Geltaidd ar gyfer Dydd y Meirw – Gwyn ap Nudd. I ddathlu, mae cystadleuaeth i blant a phobl ifanc i greu ac addurno penglog Gwyn ap Nudd, Brenin...
Cwpan y Byd Pêl-droed 2022
Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’u llwyddiant o gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed yn Qatar eleni. Caneuon Dafydd Iwan ydy’r ysbrydoliaeth, gyda gweithgareddau ar gyfer pawb ar draws...
Gweithdai Drama ag Ysgrifennu Creadigol yn dod i Ddinbych a Rhuthun.
Gweithdy Drama a Ysgrifennu Creadigol (tair rhan) gyda'r actor Sion Emyr - addas i bobl ifanc 11-18 oed. 22 - 24 Awst yn Theatr Twm o'r Nant, Dinbych a'r Hen Lys yn Rhuthun.
Llond castell o ddrama i deuluoedd yr haf hwn!
Bydd chwech o adeiladau hynafol ag ysblennydd Cymru, sydd dan ofal Cadw, yn troi’n theatrau awyr agored yr haf hwn, gan gynnig drama gomedi dychanol llawn rhialtwch i’r teulu i gyd am un o gymeriadau hanesyddol amlwg ein gwlad. Felly byddwch yn barod i bacio’ch...
Wythnos Elusennau Cymru
Wyddoch chi fod Menter Iaith Sir Ddinbych yn elusen? Ac yn un 'ddibynadwy' hefyd! Mae 25-29 Tachwedd yn #WythnosElusennauCymru. Ewch ati i gymryd rhan a helpu i gydnabod y gwaith y mae elusennau, mentrau cymdeithasol, mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn ei...
[trydariadau]